Description: C:\Users\paulswann\Desktop\2011logo.gif 


Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

Statws: Cymeradwywyd gan y Cadeirydd

Dyddiad y cyfarfod

27 Ionawr 2015.  Tŷ Hywel, Bae Caerdydd CF99 1NA

Yn bresennol

Mark Isherwood AM (Ceidwadwyr Cymreig – Cadeirydd), Simon Connors (Myfyriwr PhD), Rebecca Phillips (Cyngor Cymru i’r Deillion – Cofnodion), Simon Green (Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr), Kath Taporelli (Pwyllgor Afasfa Cymru), Sian Summers-Rees (Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol), Eli Hicks (Diverse Cymru), Damian Chick, Trevor Palmer (Anabledd Cymru), Rob Wilson (Sefydliad Rowan), Debbie Houghton (Sefydliad Rowan), Clive Emery (Ymgynghorydd), Ceri Cryer (Age Cymru), Steve Walford (Anabledd Cymru), Rachel Williams (Parkinsons UK), Patrick Thompson (Capita), Dr Stephen Duckworth (Capita), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Paul Swann (Anabledd Cymru - Ysgrifennydd)

1.

Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau

Agorodd MI y cyfarfod a chroesawodd y grŵp.

 

Ymddiheuriadau:

Jennie Lewis, Robin Moulster, Owen Wiliams

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 3 Medi 2014 a materion yn codi

 

Nodwyd fod y cofnodion yn gyfrif gwir a chywir o’r cyfarfod.

 

Soniodd PS am y camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

1. Gwahodd Comisiynydd yr Heddlu i gyfarfod CPGD yn y dyfodol. Nododd PS nad oedd hyn wedi cael ei wneud ond y byddai’r gwahoddiad yn cael ei anfon mewn pryd ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

2. Ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Nododd PS nad oedd hyn wedi cael ei wneud ond y byddai’n cael ei wneud mewn pryd ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Mewn perthynas â hyn, diolchodd PS i MI ar ran Jennie Lewis am godi’r materion gydag ymchwiliad y Cynulliad i dlodi a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Gofynnodd PS a fu unrhyw adborth pellach. Cadarnhaodd MI na chafwyd unrhyw adborth hyd yma. 

3.

Aelodau Newydd ac Ethol Cyd-gadeiryddion

Eglurodd PS fod yn rhaid i’r grŵp gynnwys Aelodau o dri o’r grwpiau pleidiau gwleidyddol. Ar hyn o bryd, MI yw’r unig aelod, sy’n cynrychioli’r Blaid Geidwadol.

 

Mae Aled Roberts AC wedi cynnig cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol a chyd-gadeirio gyda MI. Galwodd y Cadeirydd am gynnig i’w enwebu.

 

Enwebwyd gan: Sian Summers-Rees

Eiliwyd gan: Kath Tarpelli

 

Dywedodd PS eu bod mewn cysylltiad â Phlaid Cymru a Llafur i annog cynrychiolwyr i’r grŵp.

 

Nododd PS hefyd fod yn rhaid i’r grŵp lunio Adroddiad Blynyddol a bod fersiwn drafft wedi cael ei lunio.

4.

Y Gronfa Byw’n Annibynnol Y diweddaraf yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Paul Swann

 

Dywedodd PS y byddai’r Gronfa yn cau mewn 5 mis. Mae oedi wrth i’r Gweinidog wneud penderfyniad ynghylch dyfodol y Gronfa. Fodd bynnag, roedd PS yn falch o roi gwybod y cafwyd ymateb da i’r ymgynghoriad a bod Pwyllgor y Gronfa yn gobeithio cyflwyno adroddiad i’r Gweinidog dros yr ychydig wythnosau nesaf.

5.

Rhaglen Asesu PIP Capita – Dr. Stephen Duckworth OBE, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Asesu Anabledd (Adran Iechyd a Lles)

 

Rhoddodd Dr Stephen Duckworth OBE gyflwyniad am y broses asesu PIP.

 

Dyma rhai o’r prif bwyntiau:

 

-       Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Capita yn cynnal asesiadau wyneb yn wyneb i brosesu ceisiadau, er bod tua 25% yn cael eu gwneud yn seiliedig ar y ffurflen gais bapur a’r dystiolaeth a ddaeth i law.

-       Fel arfer caiff PIP eu dyfarnu am hyd penodol, ac am uchafswm o 10 mlynedd.

-       Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am y polisi a’r canllawiau y mae Capita yn eu gweithredu.

-       Comisiynodd yr Adran Gwaith a Phensiynau adolygiad annibynnol o sut mae asesiad PIP yn gweithio. Cyhoeddwyd yr adolygiad ym mis Rhagfyr 2014 ac mae’n nodi’r gwelliannau sydd angen eu gwneud. Mae Capita yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i weithredu’r gwelliannau.

-       Mae Capita wedi penodi Prif Weithredwr newydd, sef Alan Cave.

-       Mae 91 y cant o’r asesiadau bellach yn cael eu dychwelyd i’r Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 5 diwrnod.

-       Mae 70% o asesiadau yn digwydd yn y cartref.

-       Mae’r ôl-geisiadau wedi gwella oherwydd cynnydd mewn archwilwyr cymwysedig.

 

Dyma rai o’r cwestiynau o’r llawr:

 

C. pa mor hir mae’r broses asesu yn digwydd o adeg y daw’r cais i law i benderfynu ar y dyfarniad.

A. Mae Capita wedi eu contractio i gwblhau’r broses o fewn 30 diwrnod. O dderbyn y wybodaeth electronig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno’r adroddiad asesu. Argymhellodd Paul Gray, yn ei adolygiad annibynnol, y dylai’r rhai sydd wedi gwneud cais allu olrhain eu cais. Mae hyn yn rhywbeth y mae Capita a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar arno yn y tymor hwy.

 

C. A fyddai’r ôl-geisiadau yn lleihau pe byddai pobl â salwch hirdymor a chyflyrau dirywiol yn cael eu heithrio rhag cael eu hailasesu.

A. Rhaid i asesiadau ar gyfer y rhai â salwch terfynol gael eu cwblhau o fewn 48 awr. Fodd bynnag, dylai’r rhai â chyflyrau sy’n gwella gael eu hailasesu i sicrhau nad yw eu cyflwr wedi gwaethygu sy’n golygu y gallant gael cyfradd uwch. I’r rhai sydd â chyflwr sefydlog sy’n annhebygol o newid, gallai ffactorau eraill, fel heneiddio, effeithio ar eu cyflwr. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd wedi penderfynu na fydd dyfarniadau penagored mwyach.

 

C. Pwy sy’n penderfynu p’un a fydd person yn cael ymweliad cartref?

A. Gweithwyr iechyd proffesiynol Capita sy’n gwneud y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, gall unigolion fynegi eu dewis ond mae’n rhaid ystyried cost.

 

C. Hyfforddiant i aseswyr ar gyflyrau penodol.

A. Mae Capita wedi cynnwys pob un o’r prif elusennau namau unigol ac maent wedi cyfrannu crynodebau a chanllawiau i’r pecyn hyfforddiant a gyflwynir i weithwyr iechyd proffesiynol. Darperir hyfforddiant hefyd gan ddefnyddio offeryn hyfforddiant ar-lein, a all fonitro a yw’r wybodaeth wedi cael ei darllen, ers pa mor hir mae’r ddogfen wedi bod ar agor ac a ydynt wedi cwblhau’r prawf ar y diwedd.

 

C. A yw hwn yn fwy o asesiad model meddygol yn hytrach nag asesiad model cymdeithasol.

A. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi mai dim ond 5 gweithiwr proffesiynol a all gynnal yr asesiadau. Meddygon, Nyrsys, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol a Pharafeddygon gan eu bod wedi gallu dehongli unrhyw dystiolaeth bellach a gyflwynwyd gan weithiwr iechyd proffesiynol a phrognosis o’r cyflwr.

 

C. Ar hyn o bryd mae tua 144,000 o bobl yn cael Lwfans Byw i’r Anabl yng Nghymru. A all Capita ymdopi â’r lefel o symud i PIP ac a fydd hyn yn arwain at gynnydd mewn apeliadau?

A. Mae ffigurau yn dangos nad yw 40 y cant o bobl sydd wedi eu dyfarnu â Lwfans Byw i’r Anabl am oes yn gwybod am PIP. Byddant yn cynnal rhai grwpiau ffocws gyda rhai sy’n cael Lwfans Byw i’r Anabl am oes i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud yn wahanol i wella’r system. Maent yn gobeithio y bydd hyn yn bwydo i mewn i’r broses apeliadau. Mae Capita yn credu bod ganddynt y gallu i ddelio â’r cynnydd.

6.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau:

Datblygu Adroddiad Cysgodol – Rhian Davies

Dywedodd RD, fel aelod o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, mae’n rhaid i’r DU  gael adolygiad gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig bob 5 mlynedd ac roedd hyn fod i ddigwydd y llynedd. Fodd bynnag, oherwydd peth oedi, mae hyn wedi symud i fis Medi 2016 fan bellaf.

 

Mae Anabledd Cymru yn parhau i weithio gyda grŵp y pedair gwlad i ddatblygu Adroddiad Cysgodol ac i gytuno ar gyfres o gwestiynau y dylai Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig eu gofyn i Lywodraeth y DU.

 

Mae Anabledd Cymru wrthi’n datblygu Adroddiad Cysgodol Cymru ac yn bwriadu cynnal gweithdai dros yr haf i gasglu safbwyntiau gan bobl anabl.

7.

Maniffesto Pobl Anabl – Rhian Davies

Lansiodd Anabledd Cymru ei Faniffesto Pobl Anabl ar 3 Rhagfyr mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, a noddwyd gan Mark Isherwood AC.

Byddant yn cynnal tri gweithdy rhanbarthol ledled Cymru fel y gall pobl anabl ddweud eu dweud.

 

Y prif faterion a ddaeth i’r amlwg o’r digwyddiad ar 3 Rhagfyr oedd yr angen am ddeddfwriaeth ynghylch byw’n annibynnol a’r teimlad cyffredinol o’r angen i gryfhau’r Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol drwy ddeddfwriaeth. Yn ogystal, roedd teimlad cryf bod angen gwneud rhagor o waith ynghylch godi ymwybyddiaeth am faterion anabledd o fewn y sector cyhoeddus.

 

Mae manylion am y gweithdai rhanbarthol ar wefan Anabledd Cymru.

 

Maent hefyd wedi dosbarthu arolwg i ganfod dealltwriaeth pobl o ddeddfwriaeth bresennol.

 

Maent hefyd yn bwriadu lansio manylion am y Maniffesto ym mis Mehefin.

8.

Unrhyw fater arall

1. Hysbysodd MI y grŵp ei fod wedi cael ei ddewis i gynnal dadl fer ar ddiwedd busnes fory, a fydd yn canolbwyntio ar Gyd-gynhyrchu.

2. Rhoddwyd gwahoddiad i’r rhai oedd yn bresennol i fynd i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth Gymunedol ar 11 Chwefror am 1pm, yn Ystafell Giniawa 1.

9.

Dyddiadau a themâu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

Dyddiadau i’w cadarnhau.

 

Bydd y themâu yn y dyfodol yn cynnwys:

- Adolygu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol

- Trosedd casineb anabledd 

 

Cytunwyd y dylid ysgrifennu at bob un o Gomisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru i’w gwahodd i’r cyfarfod nesaf.

 

Camau i’w cymryd:

 

1.    Gwahodd Comisiynwyr yr Heddlu i’r cyfarfod nesaf.

2.    Ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.